Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 10 Hydref 2012

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(87)v3

 

<AI1>

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

 

</AI2>

<AI3>

3. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Lygredd ym Mornant Porth Tywyn (60 munud) 

 

NDM5057 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-03-238: Llygredd ym Mornant Porth Tywyn, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2012.

Noder: Gosodwyd ymateb Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ar 3 Hydref 2012.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Deisebau

Ymateb Llywodraeth Cymru

</AI3>

<AI4>

4. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 

 

NDM5058 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ysgogi’r economi, uwchraddio’r seilwaith a chreu swyddi yng Nghymru.

2. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â defnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i dyfu economi Cymru.

3. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ffyniant i bobl Cymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 1, dileu ‘croesawu’r’ a rhoi ‘nodi’r’ yn ei le.

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 2.

 

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn annog Llywodraeth Cymru i geisio pwerau benthyca gwirioneddol ac i greu cwmni hyd braich, nad yw’n talu difidend, i ariannu prosiectau cyfalaf newydd.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud cynnydd ar Ardaloedd Menter, diwygio ardrethi busnes, strategaeth weithgynhyrchu a band eang ar gyfer busnesau fel mater o frys, er mwyn helpu i ysgogi’r economi.

 

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu Banc Buddsoddi Gwyrdd, fel ffordd o helpu i ysgogi’r economi.

 

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi pa mor bwysig i Gymru yw uwchraddio’r seilwaith rheilffyrdd drwy drydaneiddio, yn ogystal â’r manteision yn sgîl hyn i’r economi, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru.

</AI4>

<AI5>

5. Dadl Plaid Cymru (60 munud) 

 

NDM5059 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pwysigrwydd masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin i wasanaethau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru ac yn cydnabod blerwch Llywodraeth y DU wrth ddelio â masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin yn ddiweddar.

2. Yn nodi bod gan Lywodraeth y DU swyddogaeth gydlofnodi o hyd ym masnachfraint Cymru a’r Gororau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ceisio cyfrifoldeb llawn dros adnewyddu masnachfraint Cymru a’r Gororau;

b) ceisio datganoli’r gyllideb a’r pwerau dros y seilwaith rheilffyrdd; ac

c) sicrhau bod model di-elw yn cael ei greu ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘Cymru’.

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd Gwelliant 2 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 3.

 

[Os derbynnir gwelliant 3 bydd gwelliant 4, 5 a 6 yn cael eu dad-ddethol]

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu 3c) a rhoi yn ei le “archwilio’r holl ddewisiadau ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau gan gynnwys model busnes di-elw posibl”

 

[Os derbynnir gwelliant 4 bydd gwelliant 5 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 5 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Yn is-bwynt 3c), dileu ‘sicrhau bod model di-elw yn cael ei greu’ a rhoi yn ei le ‘archwilio’r posibilrwydd o greu model di-elw’

 

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3):

 

Yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod prif reilffordd gogledd Cymru yn cael ei thrydaneiddio erbyn diwedd Cyfnod Rheoli 6.

 

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu ymroddiad Llywodraeth y DU i Gymru drwy ei hymrwymiad i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a thrydaneiddio rheilffyrdd Cymoedd y De.

 

Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi pa mor bwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i wneud y mwyaf o fanteision trydaneiddio’r rheilffyrdd.

 

Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o drydaneiddio’r rheilffyrdd yng ngogledd Cymru yn y dyfodol.

 

Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio’r broses dendro i sicrhau buddsoddiad yn ansawdd cerbydau a’r seilwaith.

 

Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu bod Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin a’r Rheilffordd HS2 newydd yn hanfodol ar gyfer gwella gwasanaethau i ranbarth Gogledd Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gwasanaethau i Ogledd Cymru yn cael eu hatgyfnerthu yn y dyfodol.

</AI5>

<AI6>

Cyfnod Pleidleisio

</AI6>

<AI7>

6. Dadl Fer (30 munud) 

 

NDM5056 Mick Antoniw (Pontypridd)

 

Yr achos dros gadw’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yng Nghymru.

 

Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig diddymu’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol. Bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar amaethyddiaeth yng Nghymru ac yn cyfrannu at dlodi yng nghefn gwlad. Dylem gadw’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yng Nghymru.

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 16 Hydref 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>